
Blaenoriaeth Cylch Meithrin Bae Colwyn yw hapusrwydd a diogelwch pob plentyn – cynigir y gofal gorau posib mewn awyrgylch hapus a chartrefol, a chyfle i bob plentyn ddysgu trwy chwarae a datblygu i’w lawn botensial Cylch Meithrin
Gweithgareddau:
Rydyn ni’n cynllunio ac yn cynnig gweithgareddau pwrpasol i'r plant ddatblygu pob agwedd ar eu datblygiad holistig – o ddatblygiad iaith a chymdeithasol, i ddatblygiad corfforol a datrys problemau.
Chwarae a chymdeithasu â phlant eraill
Dysgu trwy chwarae tu mewn ac yn yr awyr agored
Chwarae â thywod, dŵr, toes, tŷ bach twt, jig-sos, teganau, gemau bwrdd, beiciau ayyb
Darllen stori, canu a dawnsio



Oriau / Ffioedd:
Dydd Llun i Ddydd Gwener (yn ystod tymor ysgol yn enig)
Sesiwn Byr: 8:30yb - 10:55yb
£11.50 y sesiwn
Meithrin Mwy (Bore): 8:45yb - 12:45yp
£20 y sesiwn
Meithrin Mwy (Prynhawn): 11:15yb - 3:00yp
£20 y sesiwn
Mae rhieni a gwarcheidwaid yn gallu gwneud cais am ofal plant wedi'i ariannu ac addysg gynnar am hyd at 30 awr yr wythnos (o’r tymor ar ol i’ch plentyn droi’n 3 oed).
Mae 30 awr yn cynnwys:
o leiaf 10 awr o addysg gynnar yr wythnos - cofrestrwch yma
hyd at 20 awr yr wythnos o ofal plant - cofrestrwch yma
Gallwch hefyd dalu drwy eich cyfrif Gofal Plant sy'n Rhydd o Dreth
Lleoliad
Cylch Meithrin Bae Colwyn,
Douglas Road,
Bae Colwyn,
LL29 7PE
Cysylltwch â ni.
ebost: cylchmbaecolwyn@outlook.com